Adroddiad Effaith
Rydym wrth ein boddau i ddathlu’r gwaith anhygoel sy’n digwydd yng Nghymru.
Dyma ail Adroddiad Effaith Leonard Cheshire Cymru. Mae’n cael ei gyhoeddi’n flynyddol gan ddogfennu ein llwyddiannau a’r hyn a ddysgwyd gennym bob blwyddyn, ac mae'n cynnwys ein rhaglenni, gwasanaethau, gwirfoddoli a digwyddiadau.
Mae eleni wedi bod yn flwyddyn anodd oherwydd y pandemig Covid-19 parhaus. Mae’r adroddiad yn amlygu’r heriau rydym wedi eu goresgyn i ddarparu gofal a chefnogaeth i bobl anabl ledled Cymru. Ond mae hefyd wedi bod yn flwyddyn o gyflawni llwyddiannau aruthrol, ac mae’r adroddiad yn amlygu’r effeithiau cadarnhaol rydym wedi eu cael ledled Cymru.
Rydym yn ddiolchgar iawn i’n holl wirfoddolwyr, cefnogwyr, staff a phreswylwyr sydd wedi gwneud eleni mor llwyddiannus a dylanwadol i Leonard Cheshire Cymru.
“Yr amser gyda’r preswylwyr, cysylltu â nhw, dysgu am ei bywydau a’u cefnogi, bob amser. Dyna’r peth gorau. Dwi’n falch ac yn ddiolchgar iawn fy mod i wedi cael y profiad hwnnw.” Maria – Gwirfoddolwr o Dramor