Resident playing dominoes at Dolywern

Dolywern - Cymraeg

Mae Dolywern yn gartref i 30 oedolyn ag anableddau corfforol. Rydym gerllaw pentref Y Waun, yng nghanol bryniau gwyrdd - ac mae’r afon Ceiriog yn rhedeg drwy’r safle. Mae gennym siopau lleol, bwytai, tafarndai, llyfrgell a phwll nofio ac rydym ger Croesoswallt a Wrecsam.

Dod o hyd i ni

Organisation
Dolywern
Street address
Llangollen
Post town
Wrecsam
Postal code
LL20 7AF
Phone number
Service manager:
Anna Prichard

Datrysiadau byw

  • Cartref gofal a nyrsio ar gyfer 30 oedolyn
  • Gwasanaeth seibiant

English version

Mae pawb yn gwybod nad oes unman tebyg i gartref

Dyna pam mae pob cartref Leonard Cheshire yn unigryw ac yn rhoi’r cymorth sy’n addas i’r bobl sy’n byw yno. Mae cymorth wedi'i bersonoleiddio yn helpu i sicrhau y gall pawb fyw mor annibynnol ag y mynnent.

Mae Dolywern yn gartref i 30 oedolyn ag anableddau corfforol. Rydym gerllaw pentref Y Waun, yng nghanol bryniau gwyrdd - ac mae’r afon Ceiriog yn rhedeg drwy’r safle. Mae gennym siopau lleol, bwytai, tafarndai, llyfrgell a phwll nofio ac rydym ger Croesoswallt a Wrecsam.


Ai dyma’r lle i chi?

Mae’n le diogel a chyfeillgar i fyw ynddo, gyda gofal a nyrsio o safon uchel. Mae’r tîm yn ymrwymedig ac yn brofiadol a bydd yn sicrhau ei fod yn deall ac yn bodloni eich anghenion - a hynny oll gyda’r preifatrwydd a’r parch uchaf. Mae ffisiotherapi ar gael hefyd i’ch cefnogi gyda’ch iechyd a lles.


Bydd y bobl fyddwch yn cwrdd â nhw, y pethau fyddwch yn eu gwneud…

Drwy fyw yma, byddwch yn cael eich cefnogi i fod yn annibynnol, yn iach ac yn actif. Mae rhywbeth at ddant pawb ac mae ein tîm o staff a gwirfoddolwyr ardderchog yn cynnal gweithgareddau unigol ac mewn grŵp, gan gynnwys bingo a chwisiau. Felly beth bynnag sydd o ddiddordeb i chi, p’un a yw’n cadw’n heini neu fod yn greadigol, mae bob amser rhywbeth y gallwch gymryd rhan ynddo.

…yn eich tywys i’r lle rydych am fynd

Dywedwch wrthym beth rydych chi am ei wneud, a gyda’n gilydd byddwn yn eich helpu i’w gyflawni. Beth bynnag fyddwch yn ei ddewis, byddwn yn gweithio gyda chi i sicrhau ei fod yn eich helpu i gyflawni eich nodau. Gallwch deimlo’n gartrefol yn Nolywern ar eich trywydd tuag at fyw’n annibynnol.


Cyfleusterau a gwasanaethau

  • Ffisiotherapi
  • Meddyg Teulu eich hun os oes ei angen
  • Gwasanaeth seibiant
  • Dodrefn eich hun os oes eu hangen
  • Anifeiliaid anwes ar gais
  • Agos at drafnidiaeth gyhoeddus
  • Bws mini neu drafnidiaeth arall
  • Mynediad i gadeiriau olwyn
  • Llety llawr gwaelod yn unig
  • Gerddi i breswylwyr
  • Cegin fach i breswylwyr
  • Pwynt ffôn yn eich ystafell eich hun/ffôn symudol
  • Pwynt teledu yn eich ystafell eich hun

Speak to us about referrals

If you're interested in learning more about Dolywern you can email us at 
referrals@leonardcheshire.org.

Cwrdd â'r tîm

Sylvia Jones

Sylvia Jones

Trefnydd Gweithgareddau

Carol Meaking Cook at Dolywern

Carol Meakin

Cook

Rhoi Arian i Leonard Cheshire

Rhoi Arian i Leonard Cheshire

One-off