Resident at Danybryn

Danybryn - Cymraeg

Ym mhentref tawel Radur, mae Danybryn yn gartref i 30 oedolyn ag anableddau corfforol. Mae ein cartref yng nghanol gerddi helaeth wedi’u tirlunio ac o fewn taith gerdded fer o siopau, caffis, eglwysi, y llyfrgell leol a salon harddwch. Rydym tua phum milltir o ganol dinas Caerdydd.

Dod o hyd i ni

Organisation
Danybryn
Street address
Heol Isaf
Post town
Radur
Postal code
CF15 8AJ
Phone number
Email address
Email Danybryn - Cymraeg
Service manager:
Anita Upham

Datrysiadau byw

  • Cartref gofal a nyrsio ar gyfer 30 oedolyn

English version

Mae pawb yn gwybod nad oes unman tebyg i gartref

Dyna pam mae pob cartref Leonard Cheshire yn unigryw ac yn rhoi’r cymorth sy’n addas i’r bobl sy’n byw yno. Mae cymorth wedi'i bersonoleiddio yn helpu i sicrhau y gall pawb fyw mor annibynnol ag y mynnent.

Ym mhentref tawel Radur, mae Danybryn yn gartref i 30 oedolyn ag anableddau corfforol. Mae ein cartref yng nghanol gerddi helaeth wedi’u tirlunio ac o fewn taith gerdded fer o siopau, caffis, eglwysi, y llyfrgell leol a salon harddwch. Rydym tua phum milltir o ganol dinas Caerdydd.


Ai dyma’r lle i chi?

Mae’n le diogel a chyfeillgar i fyw ynddo, gyda gofal a nyrsio o safon uchel. Mae’r tîm yn ymrwymedig ac yn brofiadol a bydd yn sicrhau ei fod yn deall ac yn bodloni eich anghenion - a hynny oll gyda’r preifatrwydd a’r parch uchaf. Mae ffisiotherapi ar gael hefyd ac mae gennym dechnoleg gynorthwyol. 


Bydd y bobl fyddwch yn cwrdd â nhw, y pethau fyddwch yn eu gwneud…

Drwy fyw yma, byddwch yn cael eich cefnogi i fod yn annibynnol, yn iach ac yn actif. Mae rhywbeth at ddant pawb ac mae ein tîm o staff a gwirfoddolwyr ardderchog yn cynnal gweithgareddau unigol ac mewn grŵp, gan gynnwys dosbarthiadau llythrennedd a bingo. Felly beth bynnag sydd o ddiddordeb i chi, p’un a yw’n cadw’n heini neu fod yn greadigol, mae bob amser rhywbeth y gallwch gymryd rhan ynddo.

…yn eich tywys i’r lle rydych am fynd

Beth bynnag yw eich nodau yn y tymor byr neu'r tymor hir, rydym yma i’ch cefnogi a gwneud yn siŵr bod eich siwrne mor hwyl a llwyddiannus â phosibl.


Cyfleusterau a gwasanaethau

  • Ffisiotherapi
  • Meddyg Teulu eich hun os oes ei angen
  • Dodrefn eich hun os oes eu hangen
  • Ni chaniateir ysmygu
  • Agos at siopau lleol
  • Agos at drafnidiaeth gyhoeddus
  • Bws mini neu drafnidiaeth arall
  • Lifft
  • Mynediad i gadeiriau olwyn
  • Technoleg gynorthwyol
  • Gerddi helaeth i breswylwyr
  • Cegin fach i breswylwyr
  • Pwynt ffôn yn eich ystafell eich hun/ffôn symudol
  • Pwynt teledu yn eich ystafell eich hun
  • Mynediad i’r rhyngrwyd i breswylwyr

Speak to us about referrals

If you're interested in learning more about Danybryn you can email us at 
referrals@leonardcheshire.org.

Rhoi Arian i Leonard Cheshire

Rhoi Arian i Leonard Cheshire

One-off